12. A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!
13. Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i'm dysgawdwyr!
14. Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a'r dyrfa.
15. Yf ddwfr o'th bydew dy hun, a ffrydiau allan o'th ffynnon dy hun.
16. Tardded dy ffynhonnau allan, a'th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.
17. Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi.
18. Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid.
19. Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i'w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.