Diarhebion 5:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:

2. Fel y gellych ystyried pwyll, a'th wefusau gadw gwybodaeth.

3. Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mĂȘl, a'i genau sydd lyfnach nag olew:

4. Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.

5. Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a'i cherddediad a sang uffern.

6. Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.

Diarhebion 5