Diarhebion 31:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.

8. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.

9. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus.

10. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl.

11. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.

Diarhebion 31