Diarhebion 31:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?

3. Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.

4. Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:

5. Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig.

6. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.

Diarhebion 31