Diarhebion 31:16-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

17. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

18. Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.

19. Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogail.

20. Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus.

21. Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

Diarhebion 31