8. Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara.
9. Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer.
10. Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11. Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a'i mam ni fendithia.
12. Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.
13. Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a'i hamrantau a ddyrchafwyd.
14. Y mae cenhedlaeth a'i dannedd yn gleddyfau, a'i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a'r anghenus o blith dynion.
15. I'r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:
16. Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a'r tân ni ddywed, Digon.
17. Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a'r cywion eryrod a'i bwyty.