4. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
5. Holl air Duw sydd bur: tarian yw efe i'r neb a ymddiriedant ynddo.
6. Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7. Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw.
8. Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi รข'm digonedd o fara.
9. Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer.
10. Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11. Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a'i mam ni fendithia.