23. Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i'w meistres.
24. Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:
25. Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;
26. Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;
27. Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;
28. Y pryf copyn a ymafaela â'i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.
29. Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:
30. Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;
31. Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.
32. Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.
33. Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.