16. Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a'r tân ni ddywed, Digon.
17. Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a'r cywion eryrod a'i bwyty.
18. Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:
19. Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.
20. Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd.
21. Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:
22. Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;
23. Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i'w meistres.
24. Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:
25. Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;
26. Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;
27. Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;
28. Y pryf copyn a ymafaela â'i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.
29. Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:
30. Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;
31. Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.
32. Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.