1. Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.
2. Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.
3. Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.
4. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
5. Holl air Duw sydd bur: tarian yw efe i'r neb a ymddiriedant ynddo.
6. Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7. Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw.
8. Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara.
9. Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer.
10. Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11. Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a'i mam ni fendithia.