Diarhebion 3:11-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;

12. Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

13. Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r dyn a ddygo ddeall allan.

14. Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

15. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

Diarhebion 3