Diarhebion 3:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:

2. Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4. Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.

5. Gobeithia yn yr Arglwydd â'th holl galon; ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun.

6. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

Diarhebion 3