Diarhebion 29:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.

2. Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.

3. Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.

4. Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a'i dinistria hi.

5. Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i'w draed ef.

6. Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.

7. Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.

8. Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.

9. Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.

10. Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef.

11. Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a'i hatal hyd yn ôl.

12. Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.

13. Y tlawd a'r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a'r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

14. Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.

Diarhebion 29