Diarhebion 27:15-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16. Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17. Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18. Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

19. Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.

20. Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

21. Fel y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnais i'r aur: felly y mae gŵr i'w glod.

22. Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

23. Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

24. Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25. Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

26. Yr ŵyn a'th ddillada, ac o'r geifr y cei werth tir.

27. Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i'th lancesau.

Diarhebion 27