Diarhebion 27:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

15. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16. Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17. Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18. Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

Diarhebion 27