Diarhebion 27:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo.

12. Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

13. Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.

14. Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

Diarhebion 27