Diarhebion 27:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nac ymffrostia o'r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2. Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3. Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.

4. Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

Diarhebion 27