Diarhebion 26:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.

21. Fel glo i'r marwor, a choed i'r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.

22. Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.

23. Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.

24. Y digasog a ragrithia â'i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:

Diarhebion 26