Diarhebion 26:2-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel yr aderyn wrth grwydro, a'r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.

3. Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.

4. Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.

5. Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6. Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.

7. Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid.

Diarhebion 26