Diarhebion 26:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i'r ffôl anrhydedd.

2. Fel yr aderyn wrth grwydro, a'r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.

3. Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.

4. Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.

Diarhebion 26