Diarhebion 25:10-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith.

11. Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.

12. Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

13. Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

14. Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

15. Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

16. Pan gaffech fĂȘl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

Diarhebion 25