Diarhebion 24:29-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i'r gŵr yn ôl ei weithred.

30. Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;

31. Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.

32. Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.

33. Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:

34. Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.

Diarhebion 24