17. Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
18. Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.
19. Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:
20. Canys ni bydd gwobr i'r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.
21. Fy mab, ofna yr Arglwydd a'r brenin, ac nac ymyrr รข'r rhai anwastad: