Diarhebion 24:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.

11. Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â'r neb sydd barod i'w lladd?

12. Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

13. Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau.

14. Felly y bydd gwybodaeth doethineb i'th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a'th obaith ni phalla.

Diarhebion 24