Diarhebion 23:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a'th eiriau melys a golli.

9. Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.

10. Na symud mo'r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:

11. Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

12. Gosod dy galon ar addysg, a'th glustiau ar eiriau gwybodaeth.

Diarhebion 23