Diarhebion 23:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A beri di i'th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua'r wybr.

6. Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo'i ddanteithion ef.

7. Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a'i galon heb fod gyda thi.

8. Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a'th eiriau melys a golli.

Diarhebion 23