Diarhebion 23:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.

33. Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd.

34. Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.

35. Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a'i ceisiaf drachefn.

Diarhebion 23