Diarhebion 22:18-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

19. Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.

20. Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,

21. I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i'r neb a anfonant atat?

Diarhebion 22