Diarhebion 20:25-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

26. Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.

27. Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

28. Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a'i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.

29. Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.

30. Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

Diarhebion 20