Diarhebion 20:23-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24. Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o'i ffordd ei hun?

25. Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

26. Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.

27. Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

Diarhebion 20