Diarhebion 2:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw.

18. Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a'i llwybrau at y meirw.

19. Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

20. Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

21. Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a'r rhai perffaith a gânt aros ynddi.

22. Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a'r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

Diarhebion 2