Diarhebion 2:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;

2. Fel y parech i'th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

3. Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;

4. Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;

5. Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw.

Diarhebion 2