Diarhebion 19:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.

5. Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.

6. Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i'r hael.

7. Holl frodyr y tlawd a'i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato.

8. A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.

9. Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.

Diarhebion 19