Diarhebion 19:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.

17. Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn.

18. Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i'w ddifetha.

19. Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a'i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.

Diarhebion 19