Diarhebion 19:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt.

13. Mab ffôl sydd orthrymder i'w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.

14. Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog.

15. Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna.

16. Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.

Diarhebion 19