Diarhebion 18:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a'r rhai a'i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.

22. Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd.

23. Y tlawd a ymbil; a'r cyfoethog a etyb yn erwin.

24. Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.

Diarhebion 18