Diarhebion 18:11-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13. Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14. Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd?

15. Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

Diarhebion 18