Diarhebion 18:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.

2. Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i'w galon ei datguddio ei hun.

3. Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.

4. Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

5. Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6. Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a'i enau a eilw am ddyrnodiau.

7. Genau y ffôl yw ei ddinistr, a'i wefusau sydd fagl i'w enaid.

8. Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

9. Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treulgar.

10. Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

11. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13. Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14. Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd?

15. Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

16. Rhodd dyn a ehanga arno, ac a'i dwg ef gerbron penaethiaid.

17. Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef.

18. Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

Diarhebion 18