Diarhebion 17:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.

10. Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.

11. Y dyn drwg sydd â'i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

12. Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â'r ffôl yn ei ffolineb.

13. Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â'i dŷ ef.

14. Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.

15. Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau.

16. Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?

17. Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

Diarhebion 17