Diarhebion 16:28-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Dyn cyndyn a bair ymryson: a'r hustyngwr a neilltua dywysogion.

29. Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a'i tywys i'r ffordd nid yw dda.

30. Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.

31. Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.

32. Gwell yw y diog i ddigofaint na'r cadarn; a'r neb a reola ei ysbryd ei hun, na'r hwn a enillo ddinas.

33. Y coelbren a fwrir i'r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.

Diarhebion 16