Diarhebion 16:22-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ffynnon y bywyd yw deall i'w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.

23. Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i'w wefusau.

24. Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i'r enaid, ac yn iachus i'r esgyrn.

25. Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.

26. Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a'i gofyn ganddo.

27. Dyn i'r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.

Diarhebion 16