Diarhebion 15:26-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.

27. Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.

28. Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.

29. Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.

30. Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.

31. Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.

32. Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.

33. Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.

Diarhebion 15