Diarhebion 15:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.

20. Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.

21. Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.

22. Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.

23. Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!

24. Ffordd y bywyd sydd fry i'r synhwyrol, i ochel uffern obry.

25. Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.

26. Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.

27. Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.

28. Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.

29. Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.

30. Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.

Diarhebion 15