Diarhebion 15:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.

18. Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.

19. Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.

20. Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.

21. Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.

22. Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.

Diarhebion 15