Diarhebion 14:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

21. A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22. Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni.

23. Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24. Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

25. Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

26. Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i'w blant ef y bydd noddfa.

27. Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.

28. Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.

29. Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.

30. Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.

31. Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a'i hanrhydedda ef.

32. Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

Diarhebion 14