Diarhebion 14:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

21. A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22. Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni.

23. Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24. Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

Diarhebion 14