18. Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.
19. Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a'r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.
20. Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.
21. A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.
22. Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni.
23. Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.
24. Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.
25. Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.
26. Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i'w blant ef y bydd noddfa.
27. Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.
28. Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.
29. Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.
30. Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.
31. Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a'i hanrhydedda ef.
32. Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.
33. Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.
34. Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.
35. Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.