Diarhebion 14:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylo.

2. Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a'r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

3. Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a'u ceidw hwynt.

4. Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.

Diarhebion 14