Diarhebion 12:9-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10. Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12. Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13. Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

14. Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

15. Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

16. Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

17. Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

18. Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

19. Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

20. Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

21. Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

22. Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef.

23. Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24. Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25. Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi.

26. Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt.

Diarhebion 12