Diarhebion 12:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.

7. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8. Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

Diarhebion 12